top of page
Writer's pictureDamian Burgess

Beth sy'n mynd o'i le?


Heddiw wrth gerdded o siop goffi i gyfarfod gyda chwsmer, gerddais heibio salon gwallt, yna un arall, wedyn un arall. Roedd y tri salon gwallt yn cael cyfanswm o un cwsmer.

Felly, fel person marchnata meddyliais, 'beth sy'n mynd o'i le?'

Efallai taw mater o amseri gwael oedd y broblem? Efallai eu bod nhw'n fusnes prysur yn aml ond yn cael diwrnod tawel heddiw... Neu efallai dydyn nhw ddim yn marchnata!

Nid oedd un o'r salonau gwallt cael gwefan, a dim ond un ohonynt oedd yn hysbysu ar gyfryngau cymdeithasol.

Penderfynais i alw i mewn i bob un ohonynt a chyflwyno fy hun. Cynigiais bob un o'r busnesau fy help. Dyfalwch beth? Ar ôl i un o'r busnesau cytuno i dderbyn ein cymorth, gwelon nhw'n syth sut i gael penolau ar seddau!

Ar gyfer y ddau salon gwallt arall y byddwn yn cynnig y tri awgrym:

1. Defnyddiwch Gyfryngau Cymdeithasol

2. Creu gwefan

3. Os ydych yn newydd yn y dref, cynnig torri gwallt AM DDIM i ddangos eich brand a sgiliau

Felly dros i chi. Joiwch! ;)


bottom of page